Yr ydych yma: Ein Tref > Hanes

Hanes


Y cyfeiriad cyntaf at y dref yw pan adeiladodd Llywelyn Fawr y castell cyntaf yno yn y 13eg ganrif ar y graig a enwir Cruciaeth. Y nesaf, a'r mwyaf swyddogol, yw pan ysgrifennwyd yn y siarter i wneud y dref yn fwrdeistref a'i lofnodi gan Edward I yn Aberteifi ar 22 Tachwedd, 1284, ble gelwid y dref yn 'Crykyth'.

Yn yr oesoedd canol roedd Criccieth yn cael ei adnabod fel Treferthyr (Martyr's Town). Awgrymir, ond nid yw hyn wedi ei brofi yn bendant, fod hyn yn cyfeirio at St Catherine y mae Eglwys y plwyf wedi ei enwi ar ei hôl. Heddiw, mae'r ysgol gynradd yn cael ei adnabod fel Ysgol Treferthyr.

Castell Criccieth a Marine TerraceYn y 19eg ganrif daeth yr ardal yn bwysig pan adeiladwyd tref Porthmadoc (Porthmadog erbyn hyn). O'r porthladd bychan hwn allforiwyd llechi Cymreig ar draws y byd. Roedd llawer o'r sgwneri a llongau deufast bach a rigiau sgwâr mwy o faint (o Lerpwl) yn eiddo, yn cael eu rheoli a'u criwio gan ŵyr o ardal Criccieth.

Ar yr adeg hon adeiladwyd y ffordd dyrpeg drwy'r ardal. Roedd hwn yn ymgais i wneud llwybr uniongyrchol drwodd i Borthdinllaen ble cynlluniwyd porthladd fferi ar gyfer masnachu gydag Iwerddon (ni chafodd ei wireddu). Roedd y ffordd hon yn wreiddiol yn pasio hanner milltir i'r gogledd o lan y môr ac yn raddol symudwyd i ganol y dref oddi wrth y castell.

Ym 1867 daeth rheilffordd Arfordir y Cambrian i Griccieth ac ehangodd y dref (er fod poblogaeth heddiw dal yn is na 2,000) i fod yn gyrchfan glan môr Fictoraidd. Dyma sut mae'r dref yn ymddangos hyd heddiw. Codwyd y tai ger y traeth ar ochr orllewinol y castell ym Marine Crescent o amgylch y cyfnod hwn, ac yn fuan wedyn adeiladwyd Marine Terrace yn ystod yr 1870au a'r 80au.

Mae Criccieth wastad wedi bod yn lle poblogaidd gyda llawer o deuluoedd yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer eu gwyliau. Mae bob amser wedi bod yn lle tawel braf, y mae gan y trigolion lleol feddwl mawr ohono.