Yr ydych yma: Y Cyngor > Cynllun Hyfforddiant

Cynllun Hyfforddiant


O dan Adran 67 deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) mae gan y Cyngor Tref ddyletswydd i ystyried hyfforddiant ar Cyfer cynghorwyr a staff ac i gyhoeddi'r cynlluniau hyfforddiant yma.

Pwrpas y cynllun hyfforddi yw sicrhau bod Cynghorwyr a’r Clerc gyda’i gilydd yn meddu ar y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen er mwyn i’r cyngor weithredu’n effeithiol. Nid oes angen i bob Cynghorydd a Chlerc fod wedi derbyn yr un hyfforddiant a datblygu'r un arbenigedd.

Mae meysydd craidd i fynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau bod gan y cyngor sgiliau a dealltwriaeth ddigonol. Rhain yw:

  • Modiwl ar gyfer Cynghorwyr newydd;

  • Y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru;

  • Rheolaeth ariannol a llywodraethu.

Bydd pob Cynghorydd yn cael cynnig y cyfle i fynychu cyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol. Mae Un Llais Cymru yn darparu gwybodaeth yn fisol o’i gyrsiau, ac mae’r rhain yn cael eu dosbarthu i bob aelod o’r Cyngor Tref. Mae cyrsiau yn cael eu cynnig ar lein ac ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pob Cynghorydd yn cael y fersiwn diweddaraf o’r ‘Canllaw Cynghorydd Da’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a dylent ymgyfarwyddo â’i gynnwys. Yn ogystal, bydd y Clerc yn cael y cyfle i fynychu cyrsiau a gynigir gan Gymdeithas y Clercod (SLCC) a bydd aelodaeth y Clerc o’r SLCC yn cael ei dalu gan y Cyngor Tref.

Bydd y Cyngor Tref yn neilltuo cyllid yn flynyddol i sicrhau bod Cynghorwyr a’r Clerc yn medru mynychu cyrsiau hyfforddiant, cynadleddau a digwyddiadau'r sector.

Bydd y Clerc yn gyfrifol am:-

  • gylchredeg unrhyw wybodaeth am gyrsiau addas ac yn awgrymu cyrsiau perthnasol i aelodau’r Cyngor

  • gadw cofnod o’r cyrsiau a fynychwyd yn flynyddol

Cynllun:

  • Cynghorwyr newydd – i fynychu modiwl Cynghorwyr newydd Un Llais Cymru o fewn blwyddyn i’w hethol

  • Yn ddelfrydol dyliau pob Cynghorydd fynychu modiwl hyfforddiant Cod Ymddygiad Un Llais Cymru - o fewn dwy flynedd i’w hethol.

  • Anogaeth i bob Cynghorydd i fynychu cyrsiau priodol Un Llais Cymru

  • Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd y Cyngor– modiwl Sgiliau Cadeirio Un Llais Cymru – o fewn blwyddyn i’w hethol

  • Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd Pwyllgor Cyllid, Polisi a Rheolaethol - Modiwl 21 Cyllid Llywodraeth Leol Un Llais Cymru - o fewn blwyddyn i’w hethol

  • Clerc - Hyfforddiant Parhaus Proffesiynol - mynychu cynadleddau, seminarau, cyrsiau hyfforddiant, digwyddiadau'r sector - pob blwyddyn yn ôl y galw

Adolygwyd, mabwysiadwyd a chymeradwywyd gan y Cyngor Tref 12 Rhagfyr 2023