Llythyr Agored i Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd


Yr ydych yma: Newyddion > Llythyr Agored i Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

Pwnc: Materion hir sefydlog heb eu datrys sy’n gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd

Annwyl Brif Weithredwr ac Arweinydd,

Mae’r Cyngor Tref yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am nifer o ddatblygiadau positif yn y dref. Diolch am y gwaith ail-wynebu ffordd sydd wedi cymryd lle yn ystod mis Mawrth. Aeth pob dim yn hwylus ac yn amserol, gan gynnwys y gwaith ei hun, y paratoi a’r cyfathrebu gyda thrigolion a busnesau. Mae balchder mawr hefyd yn y gwaith o ail-gyflunio’r Maes a’r cydweithio gyda’r Cyngor Tref ar y cynllun. Mae ymateb da iawn i’r gwaith sydd wedi trawsnewid y gofod gyda chyfraniad o feinciau gan y Cyngor Tref. Byddai’n dda medru trefnu digwyddiad agoriad swyddogol gyda Chyngor Gwynedd ar y Maes i gydnabod y gwaith. Rydym hefyd wedi elwa o nifer o grantiau drwy law Cyngor Gwynedd yn ystod y flwyddyn diwethaf – Cronfa Gwynedd Ni, Diwyllesiant a Phartneriaeth Natur Gwynedd ac yn diolch am y buddsoddiad sy’n cefnogi ein Cynllun Cymunedol. Diolch hefyd am gytuno i fuddsoddiad newydd ym Maes Chwarae Ty’n Rhos sydd am elwa o gael swing a ffrâm ddringo newydd i’r plant yn y cyffuniau.

Fodd bynnag, mae Cyngor Tref Criccieth yn mynegi pryder ffurfiol ynghylch y nifer sylweddol o faterion sydd wedi bod yn aros am ymateb neu ddatrysiad ers cyfnod hir, ac mewn rhai achosion ers blynyddoedd, er gwaethaf sawl cais am ddiweddariad ac ymdrechion ein Cynghorydd Sir. Mae aelodau’n teimlo’n gryf nad yw’r sefyllfa hon yn dderbyniol mwyach, yn enwedig lle mae’r materion yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd, hygyrchedd, seilwaith hanfodol neu gyfrifoldebau statudol.

Darllenwch y llythyr llawn isod:

Llythyr Agored